Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 22 Gorffennaf 2013

Oddi ar Wicipedia
Presennol

Elfed Williams (Cadair), Les Barker, Martin Evans-Jones, Gwyn Williams, Robin Owain ac Eleri James (Skype).

Ymddiheuriadau

Huw Williams (Trysorydd), Phil Jonathan (Ysgrifennydd),

1. Penodi Rheolwr Wicimedia UK yng Nghymru

Llongyfarchwyd Robin ar gael ei benodi i staff Wikimeda ac ar secondiad i Wici Cymru.

2. Y Cofnodion

Derbyniwyd yn gywir.

3. Ffurfio elusen

Awgrymwyd ebostio darpar ymddiriedolwyr gyda'r manylion personol sydd ei angen. Trafodwyd cyflogi clerc i deipio'r cyfansoddiad newydd ac awgrymwyd fod RO yn cysylltu gyda Lilwen neu Gwen E.

4. Adroddiad y Rheolwr

Derbyniwyd. Ategwyd fod gwaith mawr wedi'i gyflawni hyd yma.

5. Llwybrau Byw!

Trafodwyd y cynlluniau sydd ar y gweill ac adroddwyd i'r hyfforddiant cyntaf gael ei wneud yn Nhrefynwy ar 20 Gorffennaf. Amlinellwyd y gwaith oedd i'w wneud. Awgrymwyd rhoi'r targedi a'r hyn sydd wedi'i wneud yn Adroddiad nesaf y Rheolwr.

6. Dywedodd Martin iddo arwydd dogfen yn Llundain, fel Is-gadeirydd, yn swyddfa Wikimedia.
7 Derbyniwyd gohebiaeth gan Rhys parthed y wefan newydd.


Cyfarfod nesaf: