Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 19 Mehefin 2013

Oddi ar Wicipedia
Presennol

Elfed Williams (Cadair), Les Barker, Huw Williams, Martin Evans-Jones, Phil Jonathan, Gwyn Williams, Robin Owain, Eleri James (Skype) a Mike Peel (Wikimedia UK).

1. Cyfarfodydd a gweinyddiaeth mwy ffurfiol.
Cytunwyd:
  • i gyfarfod yn fisol, derbyn adroddiad gan Reolwr Cymru 5 diwrnod cyn y cyfarfod nesaf, newid y lleoliad i rywle ychydig mwy ffurfiol ee canolfan DVLC

2. Llwybrau Byw! / Partneriaeth ffurfiol gyda Wikimedia UK
Trafodwyd:
  • fod y gwaith papur wedi'i orffen gan WMUK (derbyniwyd a drafft terfynol ganddynt heddiw 19/06/20130) a bod pawb wedi derbyn copi o'r 5 dogfen.
  • fod hysbysebion uniaith Gymraeg wedi ymddangos yn Golwg360 a'r Cymro a rhai dwyieithog mewn mannau eraill.
  • y dyddiad cau: 21 Mehefin, 2013 a'r cyfweliadau ar 26 Mehefin
  • yn absenoldeb RO cafwyd trafodaeth am y cyfweliad
Cytunwyd:
  • fod y gwaith a wnaethpwyd hyd yma ar y cyd gyda WMUK yn dderbyniol ac awdurdodwyd ein Cadeirydd i arwyddo'r cytundeb ar ein rhan, ddydd Llun, os nad oes aelod o'r pwyllgor yn cysylltu ag ef cyn hynny.
  • derbyn cynnig Eleri iddi gynorthwyo i roi trefn ar yr ochr ariannol o ddydd i ddydd.
  • ein bod yn chwilio am gyfreithiwr/wraig i ymuno â ni ar y pwyllgor.
3. Ffurfio Elusen
Trafodwyd:
  • y dadleuon o blaid ac yn erbyn, gan gynnwys ffurfio Cwmni cyfyngedig dielw
  • Oherwydd mai WMUK felly fydd yn cyflogi'r Rheolwr (ac yntau/hithau'n cael ei secondio i Wici Cymru) yna mae'r Cyfansoddiad angenrheidiol (math Sylfaen) ar gyfer ffurfio Gymdeithas Corfforedig Elusenol yn demplad gwahanol, di-aelodau.
Cytunwyd:
  • i wneud cais i'r Comisiwn Elusennau i ffurfio Cymdeithas Corfforedig Elusenol
  • gwahodd yr aelodau sydd wedi mynychu cyfarfodydd Wici Cymru i fod yn ymddiriedolwyr i'r elusen.
Trafodwyd a derbyniwyd:
4. Dyddiad y cyfarfod nesaf
17 Gorffennaf, 2013

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu hamser a'u gwaith.