Wicipedia:Gwadiad Meddygol

Oddi ar Wicipedia

Gwadiad cyffredinol - Defnyddwch Wicipedia wrth risg eich hun! - Dydi Wicipedia ddim yn rhoi cyngor meddygol - Dydi Wicipedia ddim yn rhoi barn cyfreithiol - Efallai bod Wicipedia, mewn ambell erthygl, yn cynnwys pethau annymunol


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!