Welsh Neck

Oddi ar Wicipedia
Welsh Neck

Gwladfa fach Gymraeg a sefydlwyd yn Ne Carolina ar ddechrau'r 18g oedd Welsh Neck. Erbyn heddiw mae'n rhan o dref Hartsville, Darlington County. ond coffeir yr enw o hyd yn enw eglwys leol y Bedyddwyr, Welsh Neck Baptist Church.

Daeth yr ymsefydlwyr cyntaf i ardal ar gylch mawr (neck) ar lan Afon Pee Dee, a roddwyd iddyn nhw fel grant gan yr awdurdodau gwladfaol Prydeinig, yn y flwyddyn 1734. Y Tract Cymreig (Welsh Tract) oedd ei enw. Bedyddwyr oeddynt, o ardal yn nhalaith Pennsylvania a elwid 'Welsh Neck' hefyd. Sedlwyd y 'Welsh Neck' newydd ganddynt a roddwyd yr enw 'Plwyf Dewi Sant' ar y tir o'i gwmpas. Codwyd tai a ffermydd o gwmpas yr eglwys. Tyfid hemp, fflacs ac indigo ganddynt a chodwyd gwartheg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Carolina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.