Llyn Lucerne
| Math | llyn, area not part of a municipality of Switzerland |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Lucerne, Waldstätte |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Uri, Lucerne, Obwalden, Schwyz, Nidwalden |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 113.6 km² |
| Uwch y môr | 434 metr |
| Cyfesurynnau | 47.0194°N 8.4011°E |
| Dalgylch | 1,831 cilometr sgwâr |
| Hyd | 30 cilometr |
| Cadwyn fynydd | Alpau |
![]() | |
Llyn yng nghanolbarth y Swistir yw Llyn Lucerne (Almaeneg: Vierwaldstättersee, "Llyn y pedwar canton fforest"). Ef yw'r pedwerydd llyn yn y Swistir o ran maint, gydag arwynebedd o 114 km² a dyfnder mwyaf o 214 m. Saif mewn ardal fynyddig, 434 m (1,424 troedfedd) uwch lefel y môr. O'i gwmpas mae nifer o gopaon adnabyddus megis Mynydd Rigi a Mynydd Pilatus.
Daw'r enw Almaeneg o'r ffaith ei fod yn ffinio ar dri chanton gwreiddiol y Swistir, Uri, Schwyz ac Unterwalden (sy'n awr wedi ei rannu yn hanner cantonau Obwalden a Nidwalden), a chanton Lucerne. Ar ei lan mae trefi hanesyddol megis Küssnacht, Weggis, Vitznau, Gersau, Brunnen ac Altdorf, a'r Rütli, lle sefydlwyd conffederasiwn y Swistir gyntaf yn ôl traddodiad.
Llifa afon Reuss trwy'r llyn, gan ei adael ger dinas Lucerne.

