Llyn Lucerne
Math | llyn, area not part of a municipality of Switzerland |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lucerne, Waldstätte |
Daearyddiaeth | |
Sir | Uri, Lucerne, Obwalden, Schwyz, Nidwalden |
Gwlad | Y Swistir |
Arwynebedd | 113.6 km² |
Uwch y môr | 434 metr |
Cyfesurynnau | 47.0194°N 8.4011°E |
Dalgylch | 1,831 cilometr sgwâr |
Hyd | 30 cilometr |
Cadwyn fynydd | Alpau |
Llyn yng nghanolbarth y Swistir yw Llyn Lucerne (Almaeneg: Vierwaldstättersee, "Llyn y pedwar canton fforest"). Ef yw'r pedwerydd llyn yn y Swistir o ran maint, gydag arwynebedd o 114 km² a dyfnder mwyaf o 214 m. Saif mewn ardal fynyddig, 434 m (1,424 troedfedd) uwch lefel y môr. O'i gwmpas mae nifer o gopaon adnabyddus megis Mynydd Rigi a Mynydd Pilatus.
Daw'r enw Almaeneg o'r ffaith ei fod yn ffinio ar dri chanton gwreiddiol y Swistir, Uri, Schwyz ac Unterwalden (sy'n awr wedi ei rannu yn hanner cantonau Obwalden a Nidwalden), a chanton Lucerne. Ar ei lan mae trefi hanesyddol megis Küssnacht, Weggis, Vitznau, Gersau, Brunnen ac Altdorf, a'r Rütli, lle sefydlwyd conffederasiwn y Swistir gyntaf yn ôl traddodiad.
Llifa afon Reuss trwy'r llyn, gan ei adael ger dinas Lucerne.