Viacom

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Viacom
Math o fusnes
cwmni cyhoeddus
Diwydiant cwmni cyfryngau
Sefydlwyd 3 Ionawr 2006
Pencadlys

One Astor Plaza

Perchnogion National Amusements
Rhiant-gwmni

S&P 500

National Amusements
Lle ffurfio Dinas Efrog Newydd
Gwefan http://www.viacom.com/ Edit this on Wikidata


Casgliad o gwmnïau cyfryngau Americanaidd yw Viacom. Daeth y cwmni presennol, Viacom Inc, i fodolaeth yn dilyn ei ymwahaniad o'r cwmni Viacom gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2005. Ar yr un pryd, newidiodd y cwmni Viacom gwreiddiol ei enw i CBS Corporation.

Prif fusnesau Viacom yw ei rhwydweithiau teledu cebl a brandiau adloniant, gan gynnwys MTV Networks (MTV, Nickelodeon, VH1, Comedy Central a rhwydweithiau eraill dros y byd), y grŵp cynhyrchu ffilmiau Paramount Pictures (sy'n cynnwys DreamWorks), Paramount Home Entertainment, BET, a Famous Music.

Mae cyfranddaliadau Viacom wedi'u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Efrog Newydd, ond rheolir y cwmni gan ei gadeirydd, Sumner Redstone, trwy ei gwmni National Amusements, Inc., sy'n berchen yn anuniongyrchol ar y mwyafrif o gyfranddaliadau Viacom.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Factory USA.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gwmni Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.