Veracruz (dinas)
| Math | dinas, dinas â phorthladd, dinas fawr, ardal poblog Mecsico |
|---|---|
| Poblogaeth | 428,323, 8,062,579, 405,952 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Miami-Dade County, San Jose, Cádiz, Tampa, Valencia, Santos, San Francisco de Campeche, Uviéu, Xalapa, Mobile, Laredo, Callao, Quetzaltenango |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 78.815 km² |
| Uwch y môr | 10 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 19.1903°N 96.1533°W |
| Cod post | 91690–91969 |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Hernando Cortés |
Dinas a phorthladd yn ne-ddwyrain Mecsico yw Veracruz, enw llawn Cuatro Veces Heroica Ciudad y Puerto de Veracruz. Hi yw porthladd mwyaf Mecsico a dinas fwyaf talaith Veracruz, ond nid hi yw prifddinas y dalaith. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 573,854.
Saif y ddinas ar arfordir Gwlff Mecsico. Fe'i sefydlwyd yn 1519 gan Hernán Cortés, y sefydliad Ewropeaidd cyntaf ar dir mawr cyfandir America. Rhoddodd Cortés yr enw La Villa Rica de la Vera Cruz ("Tref gyfoethog y Wir Groes") arni. Daeth yn borthladd pwysicaf Sbaen Newydd.
Oherwydd pwysigrwydd strategol y porthladd, bu llawer o ymladd yma. Gyrrwyd y Sbaenwyr o'r ddinas yn 1815. Yn 1838, meddiannwyd y ddinasgan lynges Ffrainc, ac yn 1847 gan yr Unol Daleithiau. Yn 1861 fe'i meddiannwyd gan y Ffrancwyr, Sbaenwyr a Phrydeinwyr, ac yn 1914 gan yr Unol Daleithiau eto.
