Neidio i'r cynnwys

Uwch Gopa'r Mynydd (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Uwch Gopa'r Mynydd
Clawr Uwch Gopa'r Mynydd
Albwm stiwdio gan Yucatan
Rhyddhawyd Mehefin 2015
Label Recordiau Coll

Ail albwm y grŵp Yucatan yw Uwch Gopa'r Mynydd. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2015 ar y label Recordiau Coll.

Mae'r albwm yn nodweddiadol o brosiect Dilwyn Llwyd, yn adeiladwaith graddol sy’n cyrraedd uchafbwynt epig, a dyna’n union a geir ar y caneuon yma.

Dewiswyd Uwch Gopa'r Mynydd yn un o ddeg albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth

[golygu | golygu cod]

Mae yma ddatblygiad hefyd, ar sawl un o’r traciau ceir sŵn llawnach mwy byw na’r hyn rydym wedi’i glywed gan Yucatan o’r blaen

—Gwilym Dwyfor, Y Selar

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]