Urddas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Urddas
Ripa dignity allegory.jpg
Data cyffredinol
Dynodwyr
Freebase /M/01j1s5 edit this on wikidata
Quora Dignity edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn trafodaethau moesol, moesegol, cyfreithiol a gwleidyddol glasurol, mae'r cysyniad o urddas yn mynegi'r syniad bod gan bawb yr hawl i gael ei werthfawrogi a'i barchu, a'i fod yn cael ei drin yn foesegol.

Gellir darparu urddas drwy drin unigolion gyda pharch. Trwy beidio â diraddio unigolyn mewn unrhyw ffordd, gallwn sicrhau fod eu hunan-barch yn aros yn gadarnhaol. Mae parchu urddas rhywun yn golygu gofyn am gydymffurfiad (nid rhoi gorchmynion) a dilyn dymuniadau unigolyn. Gall hyn hefyd ymwneud ag agweddau corfforol: e.e. tynnu'r llenni o gwmpas gwely yn yr ysbyty wrth newid dillad. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]