Un Tro (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Un Tro
Clawr Un Tro
Albwm stiwdio gan Siddi
Rhyddhawyd Ionawr 2013
Label I Ka Ching

Albwm cyntaf y grŵp Cymraeg Siddi yw Un Tro. Rhyddhawyd yr albwm yn Ionawr 2013 ar y label I Ka Ching.

Albwm cyntaf y ddeuawd brawd a chwaer gwerinol, Branwen ac Osian Huw Williams o Lanuwchllyn yw Un Tro. Mae’n albwm cysyniadol am dylwyth teg, ac wedi’i recordio’n bennaf yng nghapel Llanuwchllyn. Mae’r stiwdio anarferol yn rhoi sŵn byw ac anarferol iawn i’r casgliad, a hynny’n ychwanegu at naws arbennig yr albwm.

Dewiswyd Un Tro yn un o ddeg albwm gorau 2013 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Mae ôl dwy flynedd o waith gyda phob nodyn a sill yn llawn teimlad

—Ifan Prys, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]