Tymheredd a Gwasgedd Safonol

Oddi ar Wicipedia
Tymheredd a Gwasgedd Safonol
Enghraifft o'r canlynolsafon technegol, pwynt cyfeirio Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgwasgedd safonol, tymheredd yr ystafell, International Standard Atmosphere Edit this on Wikidata

Er mwyn sicrhau cysondeb mewn mesuriadau gwyddonol, defnyddir Tymheredd a Gwasgedd Safonol ar gyfer pob broses. Mae'r rhain yn set o werthoedd ar gyfer amodau unrhyw mesuriad sy'n cael eu diffinio gan IUPAC ar gyfer prosesau cemegol. Y gwerthoedd safonol yw gwasgedd o un bar (100 kPa) a thymheredd o 273.15K (0 °C). Mae'r gwasgedd yn agos iawn at wasgedd un atmosffer (101.325 kPa), gan mai hwn oedd yr hen wasgedd safonol.

Defnyddir gwerthoedd gwahanol gan gyrff safonol gwahanol, ac mae'r BSI (Athrofa Safonau Prydeinig), yr ISO (Athrofa Safonau Rhyngwladol) a'r NIST (Athrofa Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg UDA) oll yn defnyddio mwy nag un set o werthoedd tymheredd a gwasgedd safonol ar gyfer pwrpasau gwahanol.

Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.