Twr Gwalia (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Twr Gwalia (cylchgrawn)

Cylchgrawn Cymraeg misol yn cyhoeddi erthyglau ar nifer o destunau yn cynnwys crefydd, seryddiaeth, cerddoriaeth, athroniaeth a dirwestiaeth, yn ogystal á barddoniaeth a newyddion gwladol a rhyngwladol oedd Twr Gwalia.

Cyhoeddwyd 12 rhifyn o'r cylchgrawn rhwng Ionawr a Rhagfyr 1843.

Golygwyd dau rifyn cyntaf y cylchgrawn (Ionawr a Chwefror) gan y gweinidog Cynulleidfaol, Isaac Harding Harries[1] (marw c.1868) a Walter W. Jones, ac wedi hynny gan Harries yn unig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Isaac Harding Harries, yn Y Bywgraffiadur Cymreig".
  2. "Cylchgronau Cymru".
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.