Turones

Oddi ar Wicipedia

Llwyth Celtaidd yng nghanolbarth Gâl (Ffrainc yn awr) oedd y Turones. Rhoesant eu henw i hen ranbarth Touraine ac i ddinas Tours.

Wedi'r goncwest Rufeinig, eu prifddinas oedd Caesarodunum, Tours heddiw. Cyn y cyfnod hwn, credir fod ganddynt oppidum, yn Amboise, neu efallai yn Fondettes.