Trosedd yn erbyn dynoliaeth

Oddi ar Wicipedia

Term o fewn cyfraith ryngwladol ydy trosedd yn erbyn dynoliaeth[1] sydd yn cyfeirio at erledigaeth neu unrhyw erchyllterau ar raddfa eang yn erbyn grŵp o bobl, sef y trosedd gwaethaf.[2] Cafodd ei ddifinio gan Siartr Awst 1945 y Tribiwnlys Milwrol Rhyngwladol, pedd yn sail i Brofion Nuremberg, fel:

llofruddiaeth, difodiad, caethiwed, alltudiaeth, a gweithredoedd creulon eraill a wneir yn erbyn unrhyw boblogaeth sifiliol cyn neu yn ystod y rhyfel, neu erledigaethau am resymau gwleidyddol, hiliol, neu grefyddol

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 89.
  2. (Saesneg)  Cherif Bassiouni. Crimes Against Humanity. Adalwyd ar 23 Gorffennaf, 2006.