Tropedd

Oddi ar Wicipedia

Troad organeb, yn enwedig planhigyn, i gyfeiriad arbennig mewn ymateb i symbyliad allanol yw tropedd[1][2] neu atroad.[2] Mae mathau o dropedd yn cynnwys ffototropedd (golau), geotropedd (disgyrchiant), cemotropedd (sylweddau), hydrotropedd (dŵr), thigmotropedd (symbyliad mecanyddol), trawmatotropedd (niwed), ac electrotropedd (cerrynt trydanol).[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  tropedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Medi 2014.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [tropism].
  3. (Saesneg) tropism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Medi 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.