Triathlon Ironman

Oddi ar Wicipedia
Ironman Cymru, 2011

Mae Triathlon Ironman yn un o gyfres o rasys triathlon pellter-hir sydd wedi’u trefnu gan Gorfforaeth Triathlon y Byd. Mae’r ras yn cynnwys nofio am 2.4 milltir (3.6 cilomedr), seiclo am 112 milltir (180.25 cilomedr) a marathon 26.22 milltir (42.2 cilomder); y tri yn y drefn honno ac yn syth ar ôl ei gilydd heb doriad. Mae’n cael ei ystyried fel un o’r campau chwaraeon undydd mwyaf heriol yn y byd.[1][2][3]

Mae’r rhan fwyaf o rasys Ironman yn gorfod cael eu cyflawni o fewn 17 awr. Mae ras fel arfer yn dechrau am 7:00a.m. Rhaid cwbhau’r nofio erbyn 9:20a.m. (2 awr 20 munud), y seiclo erbyn 5:30p.m. (8 awr 10 munud), a’r marathon erbyn hanner nos (6 awr 30 munud). Mae rhai sy’n llwyddo i gwblhau’r triathlon o fewn i’r cyfyngiadau amser hyn yn cael eu galw yn ‘Ironman’.

Mae ras Triathlon Ironman Cymru yn cael ei chynnal yn Ninbych-y-Pysgod ym mis Medi bob blwyddyn.

Mae’r enw "Triathlon Ironman" hefyd yn gysylltiedig â’r triathlon Ironman gwreiddiol, sydd bellach yn Bencampwriaeth Byd Ironman. Mae wedi’i gynnal yn Kailua-Kona, Hawaii, bob blwyddyn ers 1978 (gyda ras ychwanegol yn 1982). Cafodd ei gynnal yn Oahu yn gyntaf, cyn symud i Kailua-Kona yn 1981, ac yno mae’n dal i gael ei gynnal heddiw. Mae Pencampwriaeth Byd Ironman wedi dod yn adnabyddus am hyd a amodau heriol y ras, ac mae’r sylwebaeth deledu wedi ennill Gwobr Emmy.[4][5]

Mae rasys eraill yn bodoli sydd yr un pellter â thriathlon Ironman, ond heb eu creu, perchnogi na’u trwyddedu gan Gorfforaeth Triathlon y Byd. Mae’r rasys hynny yn cynnwys cyfres Challenge Roth[6] a Triathlon Norseman.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hudson, Ryan. "2012 Ironman World Championship: The hardest day in sports". SB Nation. Cyrchwyd July 23, 2013.
  2. "FAQ:How do I know if I have the right stuff to do an IRONMAN?". Ironman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-21. Cyrchwyd July 23, 2013.
  3. Walpole, Brian. "The making of an Ironman". Performance Sports and Fitness. Cyrchwyd July 23, 2013.
  4. Collings, Jennifer. "Not Your Everyday Athlete". NASA.gov. Cyrchwyd December 3, 2013.
  5. "Ironman wins 16th Emmy Award". Hawaii 24/7. May 4, 2012. Cyrchwyd December 3, 2013.
  6. "2012 last year for Penticton Ironman triathlon". CBC. August 24, 2012. Cyrchwyd July 2, 2013.