Tramffordd Rye a Camber

Oddi ar Wicipedia
'Victoria' yn croesi Pont Broadwater(1914)

Pwrpas wreiddiol Tramffordd Rye a Camber oedd cludo golwyr o Rye, Dwyrain Sussex i'r cwrs golff. Ym 1908, ychwanegwyd estyniad i'r twyni tywod gerllaw ar gyfer pobl ar wyliau. Cludwyd tywod o'r traeth i'r dref ar gyfer adeiladwyr. Roedd Cyrnol Fred Holman Stephens Peiriannydd a Goruwchwilwr i'r tramffordd. Roedd yn lein led 3 troedfedd, a milltir a thri chwarter o hyd. Adeiladwyd y tramffordd rhwng Ionawr a Gorffennaf ym 1895, a chaewyd y lein ym 1939. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, defnyddiwyd y lein i gario darnau P.L.U.T.O (PipeLine Under The Ocean) at yr arfordir. Adeiladwyd seidyn gan filwyr o Ganada. Ar ôl y rhyfel, roedd y lein mewn cyflwr gwael, a gwerthwyd popeth ym 1947. Daeth y cwmni i ben yn Chwefror 1949.[1]

Locomotifau[golygu | golygu cod]

Oedd 2 locomotif Bagnall, "Camber" a "Victoria" ond yn ddiweddarach, defnyddiwyd locomotif petrol bron pob tro.

Enw Adeiladwr Math Adeiladwyd Rhif y gwaith Silindrau Pwys boeler Nodiadau
Camber W.G. Bagnall 2-4-0T 1895 1461 5” x 9” 140 pwys y fodfedd sgwâr Sgrapiwyd yn Rye, 1947
Victoria W.G. Bagnall 2-4-0T 1897 1511 6” x 10” 140 pwys y fodfedd sgwâr Gwerthwyd, 1937
Cwmni Adeiladu Caint 4olwyn petrol 1924 1364 Seiliedig ar gynllun "Simplex" Gwerthwyd Hydref 1946.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]