Tonlé Sap
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cambodia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,700 km² |
| Uwch y môr | 1.5 metr |
| Cyfesurynnau | 12.8833°N 104.0667°E |
| Dalgylch | 16,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 145 cilometr |
![]() | |
Cyfuniad o lyn ac afon yng Nghambodia yw Tonlé Sap (Cambodeg, yn golygu "Afon fawr" neu "lyn mawr". Mae'n amrywio'n dymhorol, ond ef yw'r llyn dŵr croyw mwyaf yn ne-ddwyrain Asia. Fe'i dynodwyd yn warchodfa natur bisffer gan UNESCO yn 1997.
Rhwng Tachwedd a Mai, yn y tymor sych, mae'r Tonlé Sap yn llifo i Afon Mekong ger Phnom Penh. Wedi i'r glawogydd ddechrau ym mis Mehefin, mae'r dŵr yn llifo o'r Mekong i'r Tonlé Sap i ffurfio llyn mawr. Amrywia arwynebedd y llyn rhwng 2,700 km2 yn y tymor sych a 16,000 km2 yn y tymor gwlyb.
Ceir nifer fawr o bysgod yn y llyn, ac mae o bwysigrwydd mawr i economi Cambodia.

