Thomas Skevington

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1509 hyd ei farwolaeth oedd Thomas Skevington neu Thomas Skeffington (bu farw 1533).

Roedd Skevington yn Abad Abary Sistersaidd Beaulieu. Cysegrwyd ef yn Esgob Bangor ar 17 Mehefin 1509.

Bu'n gyfrifol am ail-adeiladu Eglwys Gadeiriol Bangor ar raddfa fawr. Mae arysgrif Lladin uwchben drws y twr yn cofnodi fod yr Esgob Skevington wedi ei adeiladu yn 1532, er nad oedd wedi ei orffen pan fu farw Skevington yn 1533.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]