The Shawshank Redemption

Oddi ar Wicipedia
The Shawshank Redemption

Poster theatraidd
Cyfarwyddwr Frank Darabont
Cynhyrchydd Niki Marvin
Ysgrifennwr Frank Darabont
Serennu Tim Robbins
Morgan Freeman
Cerddoriaeth Thomas Newman
Sinematograffeg Roger Deakins
Golygydd Richard Francis-Bruce
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Castle Rock Entertainment
Dosbarthydd Columbia Pictures (theatraidd)
Warner Bros. (cyfryngau cartref)
Dyddiad rhyddhau 23 Medi 1994
Amser rhedeg 142 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb $25 miliwn[1]
Refeniw gros $28,341,469[1]

Ffilm ddrama Americanaidd o 1994 yw The Shawshank Redemption a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Frank Darabont ac sy'n serennu Tim Robbins a Morgan Freeman.

Cafodd y ffilm ei haddasu o'r stori Rita Hayworth and Shawshank Redemption sy'n ymddangos yn y gyfrol Different Seasons gan Stephen King, ac mae'n portreadu Andy Dufresne, bancwr sy'n treulio bron i ddwy ddegawd ym Mhenydfa Daleithiol Shawshank am lofruddiaeth ei wraig a'i chariad er iddo honni ei fod yn ddieuog. Yn ystod ei amser yn y carchar, mae'n dod yn gyfaill i'w gyd-garcharor Ellis "Red" Redding, ac mae'n cael ei amddiffyn gan y gardiau ar ôl i'r warden ddechrau ei ddefnyddio wrth brosesu arian anghyfreithlon.

Er y derbyniad llugoer yn y swyddfa docynnau (a oedd prin yn cyflenwi ei chyllideb), cafodd y ffilm adolygiadau ffafriol gan feirniaid, nifer o enwebiadau am wobrau, ac wedi bod yn boblogaidd iawn ar deledu cebl, VHS, DVD, a Blu-ray, ac yn 2007 cafodd ei chynnwys yn rhestr yr American Film Institute o gant ffilm orau yr Unol Daleithiau.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Shawshank Redemption. Box Office Mojo.
  2. (Saesneg) Gilbey, Ryan (26 Medi 2004). Film: Why are we still so captivated?. The Sunday Times.