The Gododdin of Aneirin
Gwedd
Golygiad newydd o'r Gododdin ac astudiaeth arni gan John Thomas Koch yw The Gododdin of Aneirin: Text and Context from Dark-Age North Britain a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1997. Yn 2014 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Astudiaeth ysgolheigaidd o'r gerdd epig o'r 6g gan Aneirin, ar gyfer pawb sy'n ymddiddori yn hanes yr Hen Ogledd ynghyd ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gynnar. Cynhwysir cyflwyniad hanesyddol, testun wedi'i ail-lunio, a nodiadau.
Mae ail-luniad Koch o destun Y Gododdin a rhai o'i ddamcaniaethau am Aneirin a'i gerdd wedi bod yn ddadleuol ym myd ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd ac nid pawb sy'n eu derbyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin, 2013