Terfysgoedd Swing

Oddi ar Wicipedia
Terfysgoedd Swing
Enghraifft o'r canlynolaflonyddwch sifil Edit this on Wikidata
Dechreuwyd28 Awst 1830 Edit this on Wikidata
LleoliadSouthern England, Dwyrain Anglia Edit this on Wikidata
Peiriant dyrnu wedi'i bweru gan geffylau

Ar 28 Awst 1830, dinistriwyd peiriant dyrnu yn Lower Hardes, ger Caergaint yng Nghaint, de-ddwyrain Lloegr. Dyma’r cyntaf o bron 1,500 o ddigwyddiadau yn y diwedd a oedd yn gysylltiedig â’r Terfysgoedd Swing. Roedd y digwyddiadau yn ymestyn o swydd Caint i Hampshire gyda’r terfysgwyr yn cael eu harwain gan gymeriad dychmygol o’r enw ‘Capten Swing’. Ymosodent ar beiriannau dyrnu, difrodi a llosgi eiddo ac anfon llythyrau bygythiol at dirfeddiannwyr a chlerigwyr. Prif ffocws y terfysgwyr oedd eiddo – targedwyd ysbuborion yn ogystal ag adeiladau a oedd yn cynnwys injans ar gyfer y peiriannau dyrnu. Yr union beiriannau oedd bellach wedi disodli y gweithwyr oherwydd cynt gyda llaw fyddai’r ŷd wedi cael ei chwynnu. Roedd y peiriannau newydd yn rhatach i’r meistr ac yn fwy cyflym o ran cwblhau’r gwaith.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anhrefn amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  2. "Radicaliaeth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.