Telesgop Gofod Hubble

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Telesgop gofod Hubble)
Neidio i: llywio, chwilio
Telesgop Gofod Hubble
Hubble 01.jpg
Lansiwyd 24 Ebrill 1990
Perchennog NASA
Pellter o'r ddaear 600km
Gwefan Swyddogol http://hubble.nasa.gov/

Mae Telesgop Gofod Hubble yn delesgop enwog sydd yn cylchdroi o amgylch y Ddaear. Dyma yw'r telesgop optegol cyntaf o sylwedd i droi o gwmpas y Ddaear mewn orbit. Mae'r telesgop yn medru arsyllu 24 awr y dydd ac yn gallu cynhyrchu delweddau o'r awyr sy'n llawer cliriach na unrhyw delesgop daearol gan fod lleoliad y telesgop uwchben yr atmosffer. Enwyd y telesgop ar ôl seryddwr Edwin Hubble.

Adeiladwyd y telesgop gan NASA ac yr ESA. Lleolir y telesgop 600 km uwchben y ddaear a lansiwyd ar y 24ain o Ebrill 1990. Mae'r telesgop yn cwblhau orbit cyfan o'r Ddaear mewn 97 munud sy'n golygu ei fod yn teithio 5 milltir mewn eilliad.

Mae'r Hubble ei hun tua'r un maint a bws ysgol fawr, ond yn ddigon bach i ffitio mewn ardal cargo Space Shuttle. Cafodd y hubble ei atgyweirio yn 1993 oherwydd amherffeithrwydd y delweddau a gynhyrchir. Roedd yna broblem efo cromlin un o’r drychau, a danfonwyd space shuttle arall i fyny i atgyweirio'r broblem.