Talat Chaudhri

Oddi ar Wicipedia
Talat Chaudhri, Maer Aberystwyth, tu allan Llyfrgell Tref Aberystwyth

Mae Talat Zafar Chaudhri yn ieithydd a chynghorydd ar Gyngor Tref Aberystwyth a'n Faer Aberystwyth 2018-19.

Disgrifia ei hun ar ei dudalen Twitter fel, "ieithydd Brythonaidd/Celtaidd, TG, cynghorydd tref, Pwnjabi Prydeinig, sosialydd // Brythonic/Celtic linguist, IT, town councillor, British Punjabi, socialist". Magwyd ef yn Lloegr i deulu Mwslim o is-gyfandir India.

Enillodd ei ddoethuriaeth PhD ar astudiaeth o system gytseiniol yr iaith Gernyweg ('Studies in the Consonantal System of Cornish' [1]) a gyflwynodd yn 2007.

Yn ogystal â'r Gymraeg mae'n siarad Llydaweg. Mae wedi dysgu Gaeleg a Gwyddeleg talaith Ulster fel dechreuwr. Mae ganddo beth wybodaeth pasif o Wrdw a Punjabi.

Gyrfa Academaidd[golygu | golygu cod]

Gweithiodd Talat yn UKOLN ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yn adran Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddo MA yn ogystal â PhD ac astudiodd Hanes Fodern a Hen Hanes yng ngholeg Lady Margaret Hall, Prifysgol Rhydychen.

Mae'n gweithio fel arbenigwr mewn gwasanaethau gwybodaeth.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Talat Chaudhri i Gyngor Tref Aberystwyth fel cynghorydd Plaid Cymru yn 2016. Mae'n cynrychioli Ward y Gogledd. Etholwyd ef yn Faer Aberystwyth ym mis Mai 2018. Bu'n weithgawr gyda phwyllgor gefeillio Aberystwyth a Sant Brieg yn Llydaw gyda Chyngor y Dref a gyda Chymdeithas Cymru-Llydaw yn ei amser rhydd.

Fel Maer fe benododd Rabbi Iddewig i fod yn gaplan ar ei ran, er ei fod yn Fwslim o ran cefndir. Tynnwyd y ffoto uchod y tu allan i Lyfrgell Tref Aberystwyth, hen bencadlys y Cyngor Tref, ar ddechau ei orymdaith i Eglwys Mihangel Sant ar gyfer seremoni grefyddol ei urddo fel Maer.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-25. Cyrchwyd 2018-05-13.