Sir Daria
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Syr Darya)
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Turkistan Region |
| Gwlad | Casachstan, Wsbecistan, Tajicistan, Cirgistan |
| Cyfesurynnau | 40.9006°N 71.7581°E, 46.1542°N 60.8736°E |
| Aber | North Aral Sea |
| Llednentydd | Kosonsoy, Afon Arys, Afon Keles, Chirchiq, Afon Angren, Kara Darya, Afon Naryn, Afon Sokh, Khodzhabakirgan, Potshaata, Afon Ak-Suu (Syr Darya) |
| Dalgylch | 219,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 2,212 cilometr |
| Arllwysiad | 703 metr ciwbic yr eiliad |
| Llynnoedd | Kayrakkum Reservoir |
![]() | |
Afon yng Nghanolbarth Asia yw'r Sir Daria, hefyd Syr Darya ac amrywiadau eraill, yn y cyfnod clasurol afon Jaxartes. Mae'n 2,212 km o hyd, ac yn llifo i Fôr Aral.
Ffurfir yr afon pan mae afon Naryn ac afon Karadarja yn ymuno ger Ferghanatal yn Wsbecistan, rhwng mynyddoedd y Tien Shan a'r Alai. Llifa tua'r gorllewin i mewn i Dajicistan cyn dychwelyd i Wsbecistan. Llifa tua'r gogledd i mewn i Casachstan.
Defnyddir dyfroedd yr afon yn helaeth ar gyfer dyfrhau, ac mae nifer o gronfeydd ar ei hyd. Mae'r afon yn aml wedi sychu'n llwyr cyn cyrraedd Môr Aral.


