Syllabus Errorum
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | dogfen |
---|---|
Awdur | Pab Pïws IX |
Rhan o | Quanta cura |
Iaith | Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 8 Rhagfyr 1864 |
Lleoliad cyhoeddi | y Fatican |
Prif bwnc | moderniaeth, freedom of religion, separation of church and state |
Casgliad o wrthrychau sy'n ymwneud â'r meddwl cyfoes a gondemniwyd gan y Pab Pïws IX a gyhoeddwyd ym 1864 yw'r Syllabus Errorum ('Rhestr Cyfeiliorniadau').
Mae'n rhestr sy'n adlewyrchu agenda adweithiol yr Eglwys Gatholig ar y pryd yn erbyn seciwlariaeth a moderniaeth. Mae'r syllabus yn condemnio pethau fel rhyddid barn ac annibyniaeth meddwl ar faterion crefyddol, a datgysylltu'r eglwys oddi wrth y wladwriaeth (gweler eglwys wladol). Gwrthodir hawl Cristnogion nad oeddent yn Gatholigion ond yn byw mewn gwledydd Catholig i ryddid addoliad ac mae'n drwm ei lach hefyd ar oddefgarwch crefyddol a rhyddfrydiaeth seciwlar o bob math.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Alan Richardson (gol.), A Dictionary of Christian Theology (Gwasg SCM, 1969)