Swmereg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Testun Swmereg ar lechen glai.

Unigyn iaith a siaredid ym Mesopotamia yn oes hynafol Swmer (3ydd mileniwm CC) yw Swmereg[1] (𒅴𒂠 EME.G̃IR15, sef "iaith frodorol"). Dyma'r iaith ysgrifenedig hynaf yn y byd. Tua 2000 CC, ildiodd Swmereg ei safle fel iaith lafar i Acadeg, clwstwr o dafodieithoedd Semitaidd a rennir yn Asyrieg yn y gogledd a Babiloneg yn y de. Parhaodd y Mesopotamiaid i ysgrifennu yn Swmereg, drwy gyfrwng ysgrifen gynffurf, nes diwedd oes yr Acadeg bron, adeg gwawr y cyfnod Cristnogol.[2]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llenyddiaeth Swmereg

Swmereg yw iaith wreiddiol Epig Gilgamesh, un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi mewn unrhyw iaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Swmereg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.
  2. (Saesneg) Sumerian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.