Loch Cuan
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Strangford Lough)
| Math | cilfach |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 54.483°N 5.583°W |
| Llednentydd | Afon Quoile, Afon Annacloy |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
| Manylion | |
Cilfach fôr neu foryd sy'n ffurfio llyn sylweddol yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Loch Cuan (Gwyddeleg; Saesneg: Strangford Lough). Dyma'r gilfach fwyaf yn Iwerddon, yn gorchuddio 150 km2 (58 milltir sgwâr). Saif i'r de-ddwyrain o ddinas Belffast. Mae'r foryd wedi'i amgáu bron yn gyfan gwbl gan Orynys Ards; mae sianel gul hir yn ei hymyl de-ddwyreiniol yn ei chysylltu â Môr Iwerddon.
