Steppenwolf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Agraffiad cyntaf Steppenwolf. Degfed nofel yr awdur Almaeneg Herman Hesse yw Steppenwolf a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1927 ac a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1929. Cyfuna elfennau hunangofiannol a seicodreiddiol. Mae'r nofel yn adlewyrchu argyfwng dwfn ym myd ysbrydol Hesse yn yr 1920au. Mae'n gofiadwy am ei phortread o'r hollt yn ei phrif gymeriad rhwng ei ddynoliaeth ac ymladdgarwch y blaidd.[1] Daeth yn glasur rhyngwladol maes o law, er i Hesse fynnu nad oedd y rhan fwyaf o bobl wedi'i deall.

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwynir y llyfr fel llawysgrif a ysgrifennwyd gan ei brif gymeriad, dyn canol-oed o'r enw Harry Haller, sy'n ei adael i gyfaill a gyfarfu ar hap, sef mab ei letywraig. Teitl y llyfr 'go iawn' yw Cofnodion Harry Haller (Am Wallgofddynion yn Unig).

Ar ddechrau'r nofel, llethir Harry Haller gan ei anallu i fyw mewn cytgord â'r byd arferol a phobl gyffredin, normal; yn benodol, y gymdeithas benchwiban bourgeois. Yn ei grwydro digyfeiriad o amgylch y ddinas, daw ar draws dyn yn cario hysbyseb am Theatr Hudol, sy'n rhoi llyfr iddo, Traethawd ar y Steppenwolf. Mae'r traethawd, sy'n cael ei adrodd yn ei gyfanrwydd yn y llyfr wrth i Harry ei ddarllen, yn annerch Harry'n uniongyrchol ac yn ei daro gyda'i fanylder. Mae'n ymgom dyn sy'n credu fod ganddo ddwy natur wahanol: un gwâr ac ysbrydol (dyn) a'r llall, yn isel ac anifeiliadd, blaidd y paith. Rhwygir y dyn hwn gan frwydr anorchfygol y ddwy natur wahanol, am ei fod yn methu gweld tu hwnt i'r naill natur na'r llall, a thu hwnt i'w hunan a'r modd y crëir y ddwy natur ganddo ef ei hunan. Eglura'r traethawd natur amlweddog enaid pob dyn, ond mae Harry'n methu, neu yn amharod i ddeall hyn. Ond, dywed y traethawd hefyd y gall ef fod yn fawreddog, yn un o'r Anfeidrolion.

Ar hap, mae Harry'n cyfarfod â'r dyn a roes y llyfr iddo ar ôl i'r dyn hwnnw newydd mynychu angladd. Gofynna am y Theatr Hudol ac etyb y dyn 'nid yw'r Theatr i bawb'. Pan fo Harry'n gofyn am ragor o wybodaeth, argymhella'r dyn neuadd ddawnsio leol, sy'n siomi Harry.

Wrth i Harry ddychwelyd o'r angladd, mae'n cwrdd â hen ffrind academaidd a arferai drafod mytholeg Ddwyreiniol gydag ef, ac sydd yna'n gwahodd Harry i'w dŷ. Yno, caiff ei gythruddo gan feddylfryd cenedlaetholgar ei ffrind, sy'n beirniadu erthygl a ysgrifennodd Harry. Mae Harry'n wedyn yn sarhau'r dyn a'i wraig trwy feirniadu, yn ei dro, llun y wraig o Goethe, sy'n llawer rhy sentimental i Harry, sydd yn datgan eo bod yn tramgwyddo gwir athrylith Goethe. Mae'r digwyddiad hwn yn argyhoeddi Harry ei fod ef, ac y bydd am byth, yn ddieithryn i gymdeithas.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Poplawski, Paul. 2003. Encyclopedia of Literary Modernism. Westport, CT: Greenwood Publishing Group. ISBN 978-0-313-01657-8. Tudalen 176