Stand by Me (ffilm)
Gwedd
Ffilm ddrama Americanaidd o 1986 yw Stand by Me a gyfarwyddwyd gan Rob Reiner. Mae'n seiliedig ar y stori "The Body" gan Stephen King, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Different Seasons. Mae'r ffilm yn serennu Wil Wheaton, River Phoenix, Corey Feldman, a Jerry O'Connell yn y bedair brif ran, a hefyd Kiefer Sutherland, John Cusack, a Richard Dreyfuss.