Stalagmid

Oddi ar Wicipedia
Stalagmid
Mathdripstone, concretion Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebStalactid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ogof Saith Seren yn Guilin, Tsieina

Dyddodyn mwynol conigol neu silindrog o galsit, amrywiol iawn ei faint a'i ffurf yw stalagmid sy'n codi o lawr ogof galchfaen tua'r nenfwd. Y dyddodyn sy'n datblygu o'r nenfwd i lawr yw stalactid.

Mae stalagmidau yn ymffurfio wrth i'r diferion dŵr calchaidd, sy'n diferu o nenfwd yr ogof, golli cyfran o'r gormodedd o garbon deuocsid sydd ynddynt a dyddodi eu llwyth hydawdd o galsiwm carbonad. Mae uchder y stalagmid yn cynyddu wrth i haenau tenau o galsiwm carbonad ymgasglu ar ben ei gilydd dros gyfnod o amser.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.