Sombi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darlun dychmygol o sombi mewn cae yn Haiti.

Corff atgyfodedig person marw yw sombi (lluosog: sombïaid neu sombïod), neu'r "meirw byw". Ceir sawl ystyr fwy penodol i'r term. Yn niwylliant voodoo, fel y'i ceir yn Haiti er enghraifft, mae'r sombi yn gorff atgyfodedig sydd dan reolaeth lwyr dewin. Ond yn y diwylliant poblogaidd Gorllewinol mae sombïaid yn fodau meirw byw gyda chyrff pydredig, heb allu siarad na meddwl, sy'n goroesi trwy fwyta pobl: dyma'r sombïod mwyaf cyfarwydd fel y'i portreedir mewn sawl ffilm arswyd. Ymddengys y gellir olrhain y gred mewn sombïod fel y'u ceir yn voodoo a ffilmiau arswyd i'r diwylliant Cristnogol yn Ewrop yr Oesoedd Canol a ddychmygai'r meirw yn codi o'r bedd ac yn ymosod ar fodau dynol. Mae'r bortread o Angau fel bod goruwchnaturiol yn perthyn i'r gred hefyd. Ond mae'r gred mewn ffenomen o'r fath, neu rywbeth tebyg, i'w chael yn niwylliant yr Henfyd a sawl diwylliant arall hefyd ac yn perthyn i animistiaeth.

Ddraig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato