Sinhaliaid

Oddi ar Wicipedia
Sinhaliaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
LleoliadSri Lanca Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethno-ieithyddol Indo-Ariaidd sydd yn frodorol i ynys Sri Lanca yw'r Sinhaliaid (Sinhaleg: සිංහල ජනතාව trawslythreniad: Sinhala Janathāva). Maent yn cynnwys mwy na 16.2 miliwn o bobl ac yn cyfri am ryw 75% o boblogaeth Sri Lanka. Maent yn siarad yr iaith Sinhaleg, o'r teulu Indo-Ariaidd. Mae'r mwyafrif ohonynt yn Fwdhyddion Theravada, er bod rhai hefyd yn Gristnogion. Ers 1815, fe'u rhennir yn gyffredinol yn ddau grŵp: Sinhaliaid cefn gwlad, yn y canolbarth mynyddig; a'r Sinhaliaid iseldir, ar hyd yr arfordir. Er eu bod yn medru'r un iaith, gellir gwahaniaethu rhwng traddodiadau ac arferion diwylliannol y ddau grŵp.

Mae strwythur gymdeithasol y Sinhaliaid yn seiliedig ar y drefn gastiau, sydd yn cyfateb yn gyffredinol i alwedigaethau hanesyddol. Fel rheol, ceir priodas o fewn yr un cast, ac yn aml priodasau rhwng cefnder a chyfnither. Er gwaethaf, nid oes fawr o wahaniaeth rhwng arferion crefyddol a diwylliannol y gwahanol gastiau.[1]

Yn ôl hanes traddodiadol Sri Lanca, sefydlwyd gwareiddiad y Sinhaliaid gan y Tywysog Vijaya a ymfudodd o ogledd India i'r ynys yn y 5g CC.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sinhalese (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mehefin 2023.