Sif

Oddi ar Wicipedia
Sif
Enghraifft o'r canlynolcymeriad chwedlonol ym mytholeg y Llychlynwyr Edit this on Wikidata
Rhan omytholeg y Llychlynwyr Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolÁsynjur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sif

Ym mytholeg Llychlyn, mae'r dduwies Sif (Sif Wallt Euraidd) yn wraig i'r duw Thor.

Fel mae ei gwallt hir euraidd yn awgrymu, roedd hi'n dduwies ffrwythlondeb yn wreiddiol, yn cynrychioli tyfiant aeddfed y ddaear ac yn neilltuol cnydau Awst.

Mae un chwedl yn adrodd sut y bu i Loki (duw maleisus a chyfrwys sydd yn cynrychioli'r gaeaf, efallai, ym mytholeg y Gogledd) dorri gwallt Sif a'i ddwyn i'r Isfyd. Bu ymrafael mawr rhyngddo a Thor wedyn.


Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato