Sibrydion v Draenog (albwm)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Sibrydion v Draenog | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio | ||
Rhyddhawyd | Rhagfyr 2012 | |
Label | JigCal |
Albwm o ail-gymysgiadau gan Luke Evans o draciau dwyieithog y grŵp Sibrydion yw Sibrydion v Draenog. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2012 ar y label JigCal.
Mae'r albwm yn cynnwys 10 o draciau Sibrydion, wedi eu tynnu o ddau albwm sef Simsalabim a Campfire Classics, ond wedi eu hail-gymysgu gan gitarydd y grŵp Drymbago, Luke Evans. Mae Luke yn gynhyrchydd dub adnabyddus, ac mae wedi llwyddo i roi ei stamp arbennig ar ganeuon Sibrydion.
Dewiswyd Sibrydion v Draenog yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]