Siasbi

Oddi ar Wicipedia
Dyn yn defnyddio siasbi metel i roi pâr o esgidiau arno.

Teclyn yw siasbi (lluosog: siasbis) neu siesbin (lluosog: siesbins, siesbinnau) sy'n ei wneud yn haws i roi esgid arno trwy ymddwyn fel lifer. Mae'n cadw'r esgid ar agor ac yn rhoi wyneb llyfn i'r sawdl llithro i mewn i'r esgid heb wasgu cefn yr esgid. Gwneir siasbis o bob math o ddefnyddiau, ond yn draddodiadol fe'i wneir o garnau anifeiliaid megis y tarw.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am siasbi
yn Wiciadur.