Sianeli dŵr tawdd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae dŵr tawdd yn elfen hollbwysig o systemau rhewlifau. Wrth iddo lifo tua’r môr o derfynau rhewlifau neu lenni iâ mae dŵr tawdd yn llunio’r dirwedd, gan gerfio ceunentydd a dyddodi trwch o waddodion ffrwdrewlifol (fluvioglacial sediments) (gweler llen iâ a rhewlif). Mae afonydd dŵr tawdd uwchrewlifol (supraglacial), mewnrewlifol (englacial) ac yn enwedig afonydd dŵr tawdd tanrewlifol (subglacial) yn effeithio’n fawr iawn ar ymddygiad rhewlifau a llenni iâ, gan reoli eu llif a dylanwadu nid yn unig ar brosesau dyddodol ond hefyd ar y prosesau erydol sy’n esgor ar sianeli dŵr tawdd wedi’u tyrchu mewn creigiau caled neu ddyddodion rhewlifol.

Y prif nodweddion a ddefnyddir i adnabod sianeli dŵr tawdd y tu hwnt i’r ardaloedd hynny sydd dan orchudd o iâ yw: absenoldeb dalgylchoedd (catchment areas) amlwg; lloriau sych neu ddraeniad afrwydd (misfit drainage); dechreuadau a therfyniadau annisgwyl, yn ogystal ag ochrau serth; a hydbroffiliau tonnog neu gefngrwm (humped). Yn wir, hydbroffiliau tonnog neu gefngrwm yw un o’r nodweddion amlycaf ar gyfer gwahaniaethu rhwng sianeli tanrewlifol a sianeli ochrol. Fel rheol, dosberthir sianeli dŵr tawdd fel a ganlyn: (i) sianeli tanrewlifol, gan gynnwys sianeli isochrol (sub-marginal), plymffosydd (subglacial chutes) a sianeli arosod (superimposed); (ii) sianeli ochrol; (iii) sianeli gorlif (overflow); (iv) sianeli cyfrewlifol (proglacial); a (v) sianeli uwchrewlifol a mewnrewlifol.

Mae cyfeiriadaeth sianeli dŵr tawdd tanrewlifol dan reolaeth y graddiant hydrolig (hydraulic gradient) oddi mewn i rewlif neu len iâ. Caiff y graddiant hwn ei bennu’n bennaf gan dopograffi’r corff iâ ac i raddau llai gan dopograffi’r dirwedd danrewlifol. O ganlyniad, gall sianeli dŵr tawdd tanrewlifol ddilyn llwybrau lletraws ar draws llechweddau dyffrynnoedd a bryniau ac yna, efallai, droi’n ddisymwth a dilyn llwybrau ar i waered. Gelwir y sianeli hynny sy’n dilyn llwybrau lletraws (a all fod yn blethog yn aml) yn sianeli isochrol a’r rheiny sy’n plymio ar i waered yn blymffosydd. At hynny, gall dŵr tawdd tanrewlifol lifo ar i fyny, dan ddylanwad graddiant hydrolig rhewlif neu len iâ, gan esgor ar sianel gefngrwm. Wrth i afonydd mewnrewlifol ddod i gysylltiad â’r topograffi tanrewlifol, ffurfir sianeli arosod cyffredin neu sianeli arosod cefngrwm sy’n croesi gwahanfeydd dŵr neu sbardunau (spurs).

Yn wahanol i sianeli tanrewlifol, mae graddiant hydbroffiliau sianeli ochrol diamheuol yn dilyn yn fras raddiant arwyneb y rhewlif a fodolai adeg eu ffurfiant. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith fod sianel yn meddu ar raddiant graddol, sy’n lled gyflin â’r cyfuchlinau, yn profi ei bod wedi datblygu ar hyd ochr rhewlif. Gall sianel ymddangosiadol ochrol fod yn sianel isochrol. Y gwir amdani yw, nad mater hawdd o gwbl yw gwahaniaethu rhwng sianeli ochrol, sy’n nodweddu cylchfaoedd abladu rhewlifau yn bennaf, a sianeli isochrol.

Mae sianel gorlif ddiamheuol, a grëir wrth i ddŵr orlifo o lyn cyfrewlifol (proglacial lake) a thyrchu gwahanfa ddŵr neu lawr bwlch, wastad yn gysylltiedig â deltâu, traethlinau a gwaddodion llynnol. Yn absenoldeb y fath dystiolaeth ategol, mae’n amhosibl gwahaniaethu rhwng sianel gorlif a sianel arosod ar sail eu morffoleg yn unig.

Yn yr un modd ag y mae sianeli gorlif yn gysylltiedig â nodweddion llynnol, mae sianeli cyfrewlifol, a dyrchwyd gan afonydd dŵr tawdd yn draenio terfyn rhewlif neu len iâ, yn gysylltiedig â thirffurfiau a dyddodion ffrwdrewlifol.

Er bod afonydd dŵr tawdd uwchrewlifol a mewnrewlifol yn nodweddion tymhorol amlwg o rewlifau a llenni iâ, dim ond sianeli arosod sy’n darparu cofnod o’u presenoldeb yn nhirweddau a fu dan orchudd o iâ yn y gorffennol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 82–105 a 154–7
  • Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 109–17 a 327–48
  • Price, R.J. (1973) Glacial and Fluvioglacial Landforms, Oliver & Boyd, Caeredin, tt. 95–130
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Sianeli Dŵr Tawdd ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.