Shapur I
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Shapur I, brenin Persia)
| Shapur I | |
|---|---|
| Ganwyd | 2 g Firuzabad |
| Bu farw | 272 Bishapur |
| Dinasyddiaeth | Sassaniaid |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
| Swydd | emperor of the Sasanian Empire |
| Tad | Ardashir I |
| Mam | Murrod |
| Priod | unnamed daughter of Mihrak, Khwarranzem, Al-Nadirah, Domitica |
| Plant | Bahram I, Narseh, Hormizd I, Adur-Anahid, Mirian III of Iberia, Shapurdukhtak of Sakastan |
| Llinach | Sasanian dynasty |
Brenin Persia o 241 hyd 272 oedd Shapur I.
Roedd Shapur o linach y Sassaniaid ac yn fab i Ardashir I. Ymladdodd lawer yn erbyn Ymerodraeth Rhufain. Tua 241, ymosododd ar feddiannau Rhufain yn y dwyrain, a chipiodd Syria, Armenia a dinasoedd ym Mesopotamia. Ceisiodd yr ymerawdwr Gordianus III adfeddiannu Syria yn 243. Yn 260, gyrrodd yr ymerawdwr Valerianus I Shapur o Syria, ond cymerwyd ef yn garcharor gan y Persiaid gerllaw Edessa. Cadwodd Shapur ef yn garcharor am weddill ei fywyd.
Cyflwynodd ei frawd Peroz y proffwyd Mani i Shapur. Rhoddodd Shapur ei gefnogaeth iddo, gan hyrwyddo lledaeniaid Manicheaeth. Olynwyd ef gan ei fab, Hormazd I.

