Sgwrs Nodyn:Gwella neu ddileu

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Hen bryd i ni gael hyn[golygu cod]

Dwi newydd rhoi hyn ar yr erthygl warthus Vogon. Dim ond wedyn sylweddolais mai nodyn drafft sy gennym ni o hyd, heb gategori eto chwaith. Rhy hwyr heno (llosgi dau ben y ganwyll eto!), ond basai'n braf cael hyn yn weithredol. Fy unig amheuaeth ydy fod cyfnod o wythnos yn rhy fyr ag ystyried y pwysau ar ein hamser yn barod... Anatiomaros 23:50, 8 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Pa hwyl, gyfaill. Wyddwn i ddim am hyn. ond fe gafwyd sgwrs am Nodyn tebyg yn y caff chydig yn ol: Nid 'Amheus' ond 'Erthygl sydd angen ei lanhau'. Mi fasa logo yn tynnu sylw ato, fel a geir gyda'r Nodiadau 'Citation Needed' a 'Cleanup' yn Wiki. Ond tydw i ddim yn deall y busnes Nodyn yma cystal a rhai ohonoch. Llywelyn2000 00:05, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]


Mm! Mae e'n rhy gymhleth ac yn rhy hir, dwi'n meddwl. Does dim angen cyfarwyddiadau i'r gweinyddwyr er enghraifft! Ac fel y soniais yn rhywle arall, efallai y byddai logo yn help.

Neu a oes stoc o'r iconau traws-wici ar gael yn rhywle? Llywelyn2000 07:43, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Awgrymaf:


 Rhybudd! Er bod peth gwybodaeth o werth ar y dudalen hon, nid yw'r erthygl fel ag y mae yn cyrraedd y safon angenrheidiol i'w chynnwys ar Wicipedia.
Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos wedi , fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, yna mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen.
Sylwer: Os oes amheuaeth, codwch y mater yn Wicipedia:Tudalennau amheus.

Dwi ddim yn meddwl fod angen cannoedd o wahanol rybuddion (fel a geir ar Wiki); y symlaf yw'r cwbwl, y gorau i gyd.


Addaswch fel y mynnoch, wrth gwrs! Llywelyn2000 08:29, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn gret- dylem amnewid y ddrafft am y blwch yma. Oes unrhywun yn gwrthwynebu? Rhys Thomas 09:32, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi y bocs newydd yma odan nodyn:gwella - mae'n llai o waith teipio wedyn! Rhys Thomas 09:41, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Gwych! Dal ati! Llywelyn2000 12:10, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn well o lawer. Diolch am y gwaith ardderchog! Efallai basai wedi bod yn well symud hyn yn lle creu nodyn newydd, ond os ydy pawb yn cytuno cawn droi hyn yn ailgyfeiriad at y nodyn newydd (basai'n biti dileu'r nodyn yma a cholli'r drafodaeth hon). Anatiomaros 17:52, 9 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]