Sgwrs Nodyn:Ffurfiant y DU

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Terminoleg[golygu cod]

Dwi wedi newid 'gwledydd cyfansoddiadol' (= S. "constituent countries") i 'gwledydd' yn syml. Dydy'r term Saesneg - un a fathwyd gan lywodraeth y DU yn ddiweddar iawn - ddim yn cyfieithu'n rhwydd i'r Gymraeg (mae 'gwledydd cyfansoddiadol' yn swnio fel constitutional countries!). Bu cryn ddadlau am y defnydd o'r term "swyddogol" yma ar y wici S. hefyd, a chredaf eu bod wedi mabwysiadu "countries of the United Kingdom" yn ei le fel enw'r erthygl (ar ôl dadl ffyrnig o hyd marathon!). Term y llywodraeth ydyw yn y bôn, a dydy o ddim yn cael ei ddefnyddio'n gyson gan y llywodraeth honno ei hun chwaith. Mae'r term "gwledydd y DU" yn un dadleuol hefyd. Dim problem yn achos Cymru, yr Alban a Lloegr (er bod rhai cenedlaetholwyr Prydeinig yn erbyn!), ond mae'r broblem yn codi o'r defnydd o'r gair "gwlad" i ddisgrifio Gogledd Iwerddon. Mae hynny'n gwbl annerbyniol gan y Gweriniaethwyr, wrth gwrs. Hyd yn oed yn swyddogol, 'talaith' yw GI o fewn y DU ac mae'n dipyn o sarhad ar y tair gwlad go iawn i weld eu bod o'r un statws â'r dalaith/diriogaeth honno. Hefyd, dydy mwyafrif llethol yr Unoliaethwyr ddim yn ystyried fod GI yn wlad chwaith - mae nhw isio bod yn rhan o'r DU, wrth gwrs. Be dwi'n trio esbonio ydy bod y term(au) yn dadleuol ac yn gallu cael eu gweld fel datganiad o farn wleidyddol. Anatiomaros 14:36, 9 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Digon teg! ;o) Rhodri77 14:59, 9 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch, Rhodri. Esboniad hirwyntog efallai, ond dylet ti weld y miloedd (miliynau?!) o eiriau ar y pwnc drosodd ar en:! Anatiomaros 15:14, 9 Awst 2009 (UTC)[ateb]