Sgwrs Nodyn:Brythoniaid

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

WWW! Diolch Thaf! Llawerr gwell efo ffram. Llywelyn2000 17:09, 15 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Mae hyn yn fap ardderchog, ond tybed oes modd ei wneud fymryn yn llai? Mae'n llenwi hanner y dudalen, yn llythrennol, ac yn edrych yn fwy mewn canlyniad na'r testun ei hun. Pe bai gennym erthyglau sylweddol ni fyddai'n gymaint o broblem, o'i symud i lawr y dudalen i lenwi ochr un adran, ond mewn nifer o'r erthyglau hyn mae'n cymryd mwy o le - a sylw - na'r testun ei hun. Anatiomaros 16:21, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Pa hwyl, rhen gyfaill? Does dim problem i'w wneud yn llai, ond mi gymrith cwpwl o oriau gan fod yn rhaid ail-leoli pob label / dolen. Faint yn llai ydy'r cwestiwn? Tri-chwarter ei faint? Os eith yn llai, yna bydd yn rhaid dileu peth o'r wybodaeth sydd arno. Llywelyn2000 05:11, 17 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Iawn diolch, a thithau hefyd, gobeithio? Meddwl am gael hyn ryw fymryn bach yn llai oeddwn i, tua 15% efallai, fel ei fod yn llenwi llai na hanner y dudalen. Ond wrth gwrs baswn i ddim isio colli gwybodaeth o'r map trwy wneud hynny. Ydy o'n golgyu cymaint â hynny o waith? Dyna pam doedd newid y maint/meintiau yn y nodyn ei hun ddim yn gweithio felly. Dwi ddim isio i ti dreulio dwy awr arno, Llywelyn, achos byddai hynny'n golygu colli erthygl neu ddwy gen ti, efallai. Os medri di wneud o'n weddol rwydd, popeth yn iawn, ond paid â gwastraffu gormod o amser arno - basai'n rheitiach treulio'r amser hwnnw ar ehangu'r erthyglau fel bod y map yn llai ymwthiol ynddynt! Anatiomaros 20:36, 17 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Gwnaed yr hyn a wnaed. Mae o tua 3/4 y maint rwan. Collwyd y brydrau, felly mi wna i Nodyn / map arall yn cynnwys y wybodaeth honno... a chwaneg o frwydrau. Diolch am dynnu fy sylw at hyn. Mi roedd o'n rhy fawr fel ag yr oedd. Llywelyn2000 03:37, 18 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Ardderchog, ond gobeithio doedd o ddim yn ormod o drafferth i ti. Beth am ailgreu'r nodyn gwreiddol (sydd yma yn hanes y nodyn) fel 'Nodyn:Brythoniaid (mawr)' neu rywbeth, i arbed gwneud y gwaith eto? Anatiomaros 16:32, 18 Medi 2010 (UTC)[ateb]