Sgwrs MediaWici:Viewprevnext
Gwedd
Cynnig diwygiad i'r neges er mwyn i'r (diweddaraf|cynharaf) sy'n dod o'i flaen fod yn fwy eglur:
yn gyntaf. Gweler ($1)($2)($3).
Nodyn: Mae hwn yn ran o'r dudalen 'hanes'. Os yw'r neges yn cael ei ddefnyddio yn rhywle arall hefyd heb y (diweddaraf|cynharaf) yna byddai'r diwygiad uchod yn sarnu'r neges.
Lloffiwr 20:46, 30 Rhagfyr 2005 (UTC)
- Dwi ddim yn deall. Dyw (Diweddaraf|Cynharaf) yn gyntaf. Gweler (50 cynt) (50 nesaf) (20 | 50 | 100 | 250 | 500). ddim yn gwneud synnwr i fi. Beth am roi llinell newydd rhwng y (D|C) a'r Gweler... yn lle hynny? Gareth 23:04, 5 Ionawr 2006 (UTC)
- Yn anffodus mae'r 'toggle' rhwng diweddaraf|cynharaf a 50 cynt|50 nesaf wedi diflannu o'r neges nawr. A allwn ni fynd yn ôl at y fersiwn gynt? Mae'n debyg bod y rhai sy'n gyfarwydd â chyfrifiaduron yn mynd i wybod mai ystyr (diweddaraf|cynharaf) yw 'rhestri yn nhrefn y diweddaraf/cynharaf' - fi oedd yn araf yn deall hyn ac yn meddwl y byddai ehangu rhywfaint o help i'r defnyddwyr. Efallai y byddai'n gliriach petaem yn adio llinell fel y cynigiaist. Ond heb fod y 'toggle' yn gweithio does dim diben i unrhyw eglurhad! Lloffiwr 16:21, 19 Ionawr 2006 (UTC)
- O beth dwi'n gweld galla i ddim ychwanegu unrhywbeth cyn y (D|C): yr unig bethau galla i newid yma yw'r geiriau o fewn y cromfachau. Felly petawn ni'n newid 'Diweddaraf' i 'Diwygiad diweddaraf' a 'Cynharaf' i 'Diwygiad cynharaf', gyda llinell gwag cyn y neges hon, bydde hynny'n fwy clir? Gareth 18:32, 19 Ionawr 2006 (UTC)
- Heb eisiau swnio'n ddifater rhaid dweud nad wy'n gwybod erbyn hyn a fyddai ychwanegu 'diwygiad' o help ai peidio - falle y dylwn holi i Dyfrig beth mae e'n feddwl i gael golwg newydd ar y mater. Rwyf bron a difaru codi'r mater hwn erbyn hyn - falle mod i wedi creu môr a mynydd yma'n ddianghenrhaid! Y peth pwysig yw sicrhau mae ffurf 'toggle' ac nid testun sydd ar y peth! Lloffiwr 20:56, 20 Ionawr 2006 (UTC)
- Aaa, nawr dwi'n medddwl beth sy'n mynd mlaen. Dwi'n meddwl fod y 'toggle' yn diflannu os mai dim ond un tudalen o ganlyniadau sydd i gael. (Cymharer hanes 'Rhagfyr' a hanes 'Wicipedia:Blwch tywod'). Gareth 21:11, 20 Ionawr 2006 (UTC)