Sgwrs MediaWici:Unwatch

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cynnig diwygiad i'r neges:

Rhoi'r gorau i wylio

Neu:

Tynnu oddi ar fy rhestr gwylio

Lloffiwr 19:29, 19 Chwefror 2006 (UTC)[ateb]

Oes rhywbeth mwy cryno i gael? Hwn yw'r testun sy'n mynd ar frig y dudalen y lle 'gwyliwch' pan fo'r dudalen eisoes ar y restr gwylio, felly mae'r uchod i weld yn rhy hir-wyntog i fi. (Gyda llaw, dwi'n meddwl y dylid newid 'gwyliwch' a 'symudwch' i 'gwylio' a 'symud' yn y cyd-destun yma, gan fod y geiriu eraill yn y ffurf 'golygu', 'diogelu', 'dileu'... cytuno?) Gareth 22:26, 19 Chwefror 2006 (UTC)[ateb]
Gyda llaw..... - yn cytuno'n llwyr bod eisiau cael gwared ar y busnes galw 'chi' ar y cyfrifiadur. Bant â'r 'gwyliwch' a'i gymrodyr! Efallai dy fod wedi gweld fy sylwadau rhywle arall yn cynnig defnyddio'r ffurf 'gwylier' ond bydd y berfenw 'gwylio' yn cyfateb i 'golygu' etc a chyda gwefanau eraill Cymraeg - yn cytuno a dy awgrym.
Am y neges, beth am 'stopio gwylio'? (neu beth am 'cau llygaid'!). Mae rhai yn defnyddio 'atal' yn hytrach na 'stopio' ond mae ystyr atal yn gallu bod yn amwys gan ei fod yn gallu golygu 'prevent', 'obstruct'. Efallai y byddai 'ymatal rhag gwylio' yn gywir ond eto'n hirwyntog (ac efallai yn rhoi'r syniad ein bod yn ymatal rhag temptasiwn?!) Lloffiwr 17:21, 21 Chwefror 2006 (UTC)[ateb]

Ddylid dileu'r neges hwn?[golygu cod]

Yr un fath a'r neges diofyn yw e. Cathfolant (sgwrs) 21:02, 29 Awst 2013 (UTC)[ateb]