Sgwrs Delwedd:Wicipedia hysbys.jpg
Waw, deiniadol iawn. Gwych.
Os caf fod yn ffysi (dach chi gyd yn gwybod mod i'n ffysi erbyn hyn), ceisia osgoi defnyddio Comic Sans fel ffont yn y dyfodol ar gyfer unrhyw beth yn ymwenud a'r Wicipedia - mae'r ffont yn destun sbort/casineb ym myd dylunio! --Ben Bore (sgwrs) 09:47, 1 Mai 2012 (UTC)
- Bois bach!!! Llygad craff! Mi wnes i ei defnyddio gan mai dyma'r ffont mae llawer o ysgolion yn ei defnyddio. Pa font wyt ti'n ei awgrymu? Mater bach ydy eu newid. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:48, 1 Mai 2012 (UTC)
- Sdim angen llygaid craf, mae Comic Sans yn ffont 'unigryw' (ahem) iawn. Ceisiais ddyfalu'r ffont gwreiddiol drwy ddefnyddio identifont, ac awgrymodd URW Classico. Dw i ddim yn meddwl ei fod gywir, ac mae'n cynnig awgrymiadau eraill. Dw i ddim yn gwybod pa feddalwedd sy gen ti a dychmygaf nad yw pob ffont ar gael. Awgrymaf rhywbeth 'sans-serif'- Ariel yn lan a chlir.--Ben Bore (sgwrs) 20:17, 1 Mai 2012 (UTC)