Sgwrs Delwedd:Montage Abertawe1.png

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'r montage hwn yn torri hawlfraint (er gwaethaf honiad Pwyll), o achos diffyg o gydnabyddiaeth o'r crëwyr gwreiddiol ar y dudalen disgrifio. Er enghraifft, Delwedd:Swansea Bay - geograph.org.uk - 564136.jpg yw'r llun cyntaf a gynhwysir ynddo. Rhyddhawyd y llun hwnnw gan ei grëwr, Jo Henshaw, dan y drwydded CC-BY-SA-2.0. Dan amodau'r drwydded honno, rhaid cydnabod y crëwr yn y modd a bennwyd ganddo/i. Yn yr achos hwn, os dilynwch y dolenni perthnasol, gwelwch mai'r canlynol yw'r modd o gydnabyddiaeth a elwir arno: "Attribution — You must attribute Swansea Bay to Jo Henshaw (with link)." Dim ond y drwydded honno sy'n rhoi unrhyw hawl i gopïo'r llun; mae ei gopïo allan o amodau'r drwydded yn anghyfreithlon, felly; nid digonol yw dweud bod y llun yn dod o Gomin Wicifryngau heb roi manylion pellach. Wrth gwrs, dim ond un o'r lluniau yn y montage yw hwn; nid wn i am y gweddill, ond rhaid gwirio am bob un yn unigol (sy'n anodd heb fod 'na unrhyw dolenni atynt...) NEU: (yn llawer symlach) peidiwch â chreu eich montage eich hun; yn ei le, cynhwyswch y lluniau yn unigol yn yr erthygl yn unionsyth o Gomin Wicifryngau, a gwneir popeth ar eich cyfer yn awtomatig heb fod rhaid i chi ffwdanu amdano... Peredur ap Rhodri 05:27, 31 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Cytunaf â thi'n llwyr. Arhosem ar sylwad Pwyll am dri diwrnod. Os nad yw'n ateb, dileaf y llun fy hunan. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:44, 1 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]
Mae hi wedi bod yn fwy na thri dydd, a dydy'r uwchlwythwr wedi dod yn ôl. Dileaf y llun gan ei fod yn brin o wybodaeth, yn colli tagiau hawlfraint, ac o ganlyniad yn torri hawlfraint. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:17, 3 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]