Sgwrs Defnyddiwr:Y ddraig felyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'r cyfrif "Y ddraig felyn" allan o ddefnydd oherwydd bod camgymeriad ynddo - dylai bod "y ddraig felen".

Rhag ofn i ti newid dy feddwl

Ydyn, maen nhw wedi cyrraedd fy nisgwyliadau eithriadol o uchel. Diolch o waelod fy nghalon am fynd i'r fath drafferth. Yn gywir, --Ben Bore 12:01, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Gair i'r gall

Y ddraig felyn, dwi ddim yn gwybod os wyt ti wedi gadael neu beidio, ond mae sawl cwyn am rai o'th olygiadau dros y dyddiau diwethaf (gweler Wicipedia:Y Caffi#Varlaam). Mae tipyn o hiwmor yn un peth, ond dydy sylwadau a golygiadau fel hyn, hyn a hyn ddim yn dderbyniol ar Wicipedia (waeth pa argraffiad iaith o'r wicipedia). Ar ran gweddill y gymuned yma dwi'n gofyn i ti ymbwyllo felly: fel arall bydd rhagor o hyn yn arwain at flocio dy gyfrif. Anatiomaros 20:06, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]