Sgwrs Defnyddiwr:Tom.G.Cartwright

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso mawr i Wicipedia!

Mae gyda fi ymofyniad bach i ti -- paid â rhoi dy enw yn yr erthyglau os gweli di'n dda. Mae pobl yn medru darganfod pwy oedd yr awdur(on) drwy glicio ar y botwm "hanes" uwchlaw'r erthygl. Diolch yn fawr. Alan012 17 Gorffenaf 2008

Diolch am greu'r erthygl am Ysgol Dyffryn Ardudwy. Ond ga'i ofyn iti fod yn fwy ofalus wrth olygu? Roeddet ti wedi cael gwared o hanner isaf y dudalen, yn cynnwys y categoriau! Efallai yr hoffet ti edrych yn rhai o'r erthyglau yn Cymorth i ddysgu sut i olygu yn iawn? Cei di ofyn imi neu unrhyw un arall yma am gyngor neu gymorth hefyd. Anatiomaros 18:51, 17 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
I roi llun i mewn rhaid llwytho o i fyny (rho glic ar "Uwchlwytho ffeil"): gweler y dudalen Cymorth. Ond be wyt ti'n trio wneud? Rwyt ti wedi dileu popeth arall unwaith eto! Dwi'n mynd i adfer y testun a chadw dy destun newydd: plis, paid a chael gwared o'r categoriau eto! Anatiomaros 19:16, 17 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Y llun newydd[golygu cod]

Helo Tom, sut mae? Oeddet ti'n sylweddoli fod y ddelwedd newydd o'r ysgol, wedi'i llwytho heno, yn cynnwys dy enw a chyfeiriad? Dwi ddim yn meddwl fod hynny'n dderbyniol yn ôl rheolau'r wicipedia ac dwi ddim yn meddwl ei fod yn syniad da i ti, chwaith; rwyt ti'n rhoi dy gyfeiriad i bawb yn y byd ei weld. Beth am adfer yr hen ddelwedd (sy'n anferth, dwi'n cytuno), neu lwytho un llai newydd, heb dy enw a chyfeiriad? Meddwl am dy breifatrwydd, ac ati. Hwyl, Anatiomaros 22:06, 16 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]