Sgwrs Defnyddiwr:Rhysllwyd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso! Deb 19:24, 28 Maw 2005 (UTC)

Diolch

hirnod[golygu cod]

diolch am yr erthygl hynod ddiddorol ar Wilym Hiraethog. Wrth ei ddarllen fe sylwais nad oedd hirnod o gwbl yn yr erthygl. Gan gymryd nad ydych eto wedi ymrafael â'r hirnod ar Wicipedia dyma ychydig nodiadau ar y pwnc gan obeithio y byddant o gymorth.

Pan yn golygu mae blwch o lythrennau arbennig ar gyfer mewnosod yn ymddangos islaw y bocs golygu. Clicio ar y llythyren sydd ei angen i'w osod yn yr erthygl. Er mwyn i hyn fod yn bosib rhaid bod Javascript wedi ei alluogi ar eich cyfrifiadur. Os nag oes Javascript ganddoch gallwch deipio'r canlynol:

  • â = Alt + 0226
  • ê = Alt + 0234
  • î = Alt + 0238
  • ô = Alt + 0244

Os oes Word a character map (fersiwn weddol o newydd) ganddoch ar eich cyfrifiadur dylech allu gopio ŵ ac ŷ i ddogfen Word a'u copïo o'r fan hynny i Wicipedia.

Braf gweld cyfrannwr arall â Chymraeg rhugl ganddoch. Lloffiwr 00:35, 30 Ionawr 2006 (UTC)[ateb]

Ail-gyfeirio[golygu cod]

Sut mae? Croeso i'r wicipedia Cymraeg. Dwi wedi newid y dudalen 'R tudur jones' yn dudalen ail-gyfeirio. Mae hynny'n ail-gyfeirio chwiliad yn ddi-ofyn i'r dudalen iawn. #AIL-CYFEIRIO +enw rhwng cromfachau [[]] yw'r côd i roi yn y llinell gyntaf (dim angen unrhywbeth arall neu fydd o ddim yn gweithio!). Sieciwch drwy dewis 'Rhagolwg' i wneud yn siwr fod o'n gweithio'n iawn (bydd y llythrennau'n las). Hwyl, Anatiomaros 15:54, 19 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dwi wedi creu tudalen ail-gyfeirio (Thomas Richards) fel pob pobl yn cael hyd i'ch erthygl. Diolch am y cyfraniad diddorol, Anatiomaros 21:36, 9 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]