Sgwrs Defnyddiwr:PetrochemicalPete

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso i’r Wicipedia. Fe welais eich sylw ar y caffi am gyfieithu o’r wikipedia Saesneg i’r Gymraeg. Os oes chwant arnoch i gydio yn y gwaith cyfieithu yna ‘falle y bydde diddordeb ganddoch gael gwybod bod Wicipedia:Rhestr_erthyglau_sy'n_angenrheidiol_yn_holl_ieithoedd i’w gael. Mae cysylltiad o’r rhestr honno i restr tebyg yn Saesneg. Mae digon o waith cyfieithu i bar’a oes dim ond fyn’ni! Fel ag y mae Dyfrig wedi crybwyll ar y caffi mae dyrnaid bach ohonom yn treulio oesoedd yn cywiro gramadeg – mae’n help pan bod gwreiddiol Saesneg ar gael ar Wikipedia wrth wneud hyn. Ond mae angen rhagor o bobl sydd â Chymraeg digon da ganddynt i fynd ati i gywiro. Felly os ydych yn nabod rhagor o bobl â Chymraeg da ganddynt annogwch nhwythau i ymuno hefyd! Lloffiwr 19:47, 23 Hydref 2005 (UTC)[ateb]

cyfieithu o'r Saesneg[golygu cod]

Mae’n ddrwg gennyf fod cyhyd yn ateb eich sgwrs. Os y byddwch yn magu digon o hyder i geisio cyfrannu at ryw erthygl ar wicipedia yna mae modd (ond dim rheidrwydd wrth gwrs) rhoi’r cyfraniad ar dudalen sgwrs yr erthygl yn gyntaf, gyda nodyn ar y caffi iaith yn holi i rywun olygu’r Cymraeg cyn iddo gael ei drosglwyddo i’r erthygl.

Gyda llaw, dwi’n ffeindio fy hunan bod yn rhaid cael Geiriadur yr Academi wrth law wrth gyfieithu – nid yw’r geiriaduron Cymraeg ar y we yn ddigon cynhwysfawr eto at ddibenion wicipedia. ’Dwi wedi clywed bod fersiwn newydd o Eiriadur yr Academi ar fin gael ei gyhoeddi.

Pob lwc ichi wrth ail-ystwytho eich Cymraeg. Lloffiwr 12:31, 4 Tachwedd 2005 (UTC)[ateb]